Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

(9:05 - 10:30)

2.

Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol

Drwy Fideogynadledda: Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr (09.00 – 9.45)

Mary Burrows, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr

 

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro (9.45 – 10.30)

Adam Cairns, Prif Weithredwr,  Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Kevin Orford, Cyforwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Mary Burrows, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Gofynnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddarparu:

 

·         nodyn ynghylch faint o gyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau; a

·         ffigurau yn rhoi manylion am gwynion ffurfiol, pryderon a chanmoliaeth a leisiwyd wrth y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys y patrymau dros y tair blynedd diwethaf. Nododd y Pwyllgor y byddai hefyd yn gofyn am ffigurau tebyg gan Fyrddau Iechyd eraill.

 

2.3 Croesawodd y Cadeirydd Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; a Kevin Orford, Cyfarwyddwr Dros Dro - Materion Ariannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

 

2.4 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau Gweithredu:

 

Gofynnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddarparu:

 

·         eglurhad o sut mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu arfer da â sefydliadau eraill o ran prynu defnyddiau traul yn effeithiol;

·         nodyn ynghylch faint o gyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 i 6.

Cofnodion:

Eitemau 4 i 6.

 

Oherwydd cyfyngiadau amser, ni chynhaliodd y Pwyllgor sesiwn breifat.

 

(10:30 - 10:40)

4.

Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar Gyllid Iechyd

Cofnodion:

4.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, ni thrafododd y Pwyllgor yr eitem hon.

 

(10:40 - 10:50)

5.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Materion allweddol a themau sy'n dod i'r amlwg

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y materion allweddol a’r themâu sy'n dod i'r amlwg yn yr ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen, ac i anfon sylwadau at y tîm clercio.

 

(10:50 - 11:00)

6.

Ystyried y rhaglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2013

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor raglen waith bosibl ar gyfer tymor y gwanwyn 2013.

 

Trawsgrifiad