Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30 - 9.35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(9.35 - 10.15) |
Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2011-2012 PAC(4) 19-12 –
Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru
2011-2012 PAC(4) 19-12 –
Papur 2 – Gwybodaeth ychwanegol am Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd
Cyffredinol Cymru 2011-2012 PAC(4) 19-12 –
Papur 3 – Adroddiad RSM Tenon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Kevin Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; Ann Marie Hawkins, Cyfarwyddwr Grŵp; a Terry Jones, Rheolwr Technegol i’r cyfarfod.
2.2 Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyflwyno ei Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2011-2012. 2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi Archwilydd Cyffredinol Cymru am ei adroddiad a chyfrifon blynyddol. |
|
(10.15 - 10.25) |
Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus' PAC(4) 19-12 –
Papur 4 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Mark Jeffs o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod. 3.2 Bu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynghori’r Pwyllgor ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Darlun o Wasnaethau Cyhoeddus. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. |
||
(10.25 - 10.35) |
Ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyllid Iechyd Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut y dylai ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyllid Iechyd. |
|
(10.35 - 10.45) |
Blaenraglen Waith - hydref 2012 Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2012. |
|
(10.45 - 11.00) |
Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2011-2012 - Pwyllgor yn ystyried Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2011-2012. |
|
Trawsgrifiad |