Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30 - 13:35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Anfonodd y Cadeirydd ei ymddiheuriadau am fethu dechrau'r cyfarfod. Gofynnodd y Clerc am enwebiadau i benodi Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebwyd Jocelyn Davies gan Jenny Rathbone, ac fe’i penodwyd nes i'r Cadeirydd gyrraedd.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, gan mai ei gŵr oedd y Prif Weinidog ar y pryd.

 

 

(13:35 - 16:00)

2.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen

 

Llywodraeth Cymru (13.35 – 14.00)

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu

Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd

 

Drwy Gynhadledd Fideo: Karen Sinclair, Cyn Aelod Cynulliad (14.00 – 14.40)

 

Ieuan Wyn Jones AC, Cyn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (14.40 – 15.20)

 

Andrew Davies, Cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau (15:20 – 16:00)

 

 

Cofnodion:

Llywodraeth Cymru

 

2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; ac Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd, i'r cyfarfod.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Cam Gweithredu:

 

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am gofrestr datganiadau o fuddiant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pa ddatganiadau a fyddai'n cael eu hystyried yn risg posibl.

 

Karen Sinclair (drwy Gynhadledd Fideo)

 

2.3 Croesawodd y Cadeirydd Karen Sinclair, y cyn Aelod Cynulliad, i'r cyfarfod.

 

2.4 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.

 

Ieuan Wyn Jones AC

 

2.5 Croesawodd y Cadeirydd Ieuan Wyn Jones AC, y cyn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i'r cyfarfod.

 

2.6 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.

 

Andrew Davies

 

2.7 Croesawodd y Cadeirydd Andrew Davies, y cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, i'r cyfarfod.

 

2.8 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.

 

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 a 6.

Cofnodion:

Eitemau 5 a 6.

 

(16:00 - 16:20)

5.

Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. 

 

(16:20 - 17:30)

6.

Y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafoddodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

Trawsgrifiad