Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:00 - 13:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod, gan bwysleisio mor falch ydoedd fod y Cyfarfod yn cael ei gynnal yn Llangollen.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan.

 

(13:05 - 13:50)

2.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Powys Fadog

PAC(4) 20-12 – Papur 1

Pol Wong, Cadeirydd, Powys Fadog

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Pol Wong, Prif Weithredwr a Chadeirydd Powys Fadog.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Powys Fadog i ddarparu:

 

·         rhagor o wybodaeth am pryd y daeth dosbarthiadau crefft ymladd i ben ar hen safle gwesty’r River Lodge;

 

(13:50 - 14:40)

3.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Amanda Brewer

PAC(4) 20-12 – Papur 2

 

Amanda Brewer, Cyn Swyddog Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Amanda Brewer i’r cyfarfod.

 

3.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.

(14:40 - 15:30)

4.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan gyn Swyddog Cyfrifo

Gareth Hall, Cyn Gyfarwyddwr dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Hall i’r cyfarfod.

 

4.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Gareth Hall i ddarparu:

 

·         rhagor o wybodaeth am waith briffio gyda’r Gweinidog perthnasol o ran cynigion Cymdeithas Tai Clwyd Alyn i ddefnyddio safle gwesty’r River Lodge.

·         Eglurder ar a gafwyd unrhyw esiamplau eraill o Awdurdod Datblygu Cymru / Llywodraeth Cymru yn methu â chynnal gwerthusiad annibynnol ar gaffael tir.

·         Eglurder ar ba bryd y comisiynwyd yr adolygiad cydymffurfio.

·         E-bost a gafwyd gan reolwr llinell Amanda Brewer yn amlinellu natur ei rôl ar fwrdd Powys Fadog a sicrwydd bod yr achos o  wrthdaro buddiannau yn cael ei reoli’n effeithiol.

5.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 7.

Cofnodion:

Eitem 7.

(15:30 - 16:00)

7.

Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar weithredoedd Llywodraeth Cymru wrth gaffael a gwaredu hen westy’r River Lodge, Llangollen.

Trawsgrifiad

View the meeting transcript.