Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun
Ffred Jones. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09:05-10:00) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu
Tlodi Simon White, Rheolwr y Bil Ceri Breeze, Diprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y
Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar oblygiadau ariannol y Bil Rhentu
Cartrefi (Cymru). 3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. |
|
(10:00-11:30) |
Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru Gary Watkins, Rheolwr Gwasanaethau Refeniw, Cyngor
Caerdydd Nick Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid Gweithredol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer ei
ymchwiliad i Gasglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru. 4.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i
ddarparu gwybodaeth am feincnodi costau casglu'r dreth gyngor ac ardrethi
annomestig. |
|
(11:30-12:30) |
Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2 Iestyn Davies, Uwch Bennaeth Materion Allanol (Gwledydd
Datganoledig), Ffederasiwn Busnesau Bach Janet Jones,
Cadeirydd Uned Polisi Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ar ei ymchwiliad i Gasglu a Rheoli Trethi
Datganoledig yng Nghymru a chytunodd i ddarparu gwybodaeth am lywodraethu. |
|
(12:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 7 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:30-12:40) |
Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Ystyried yr Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd yr Aelodau i ddrafftio adroddiad
gydag ychydig o newidiadau. 7.2 Nododd yr aelodau'r wybodaeth ychwanegol a
ddarparwyd gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. |