Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Peter Black declared an interest as a Member of the Assembly Commission.

(9:35-10:30)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013

Comisiwn y Cynulliad
FIN(4)-04-11 (Papur1)

 

Angela Burns, Aelod Cynulliad     

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Swyddogion (i’w cadarnhau)

Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Comisiwn y Cynulliad

 

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Angela Burns, Aelod Cynulliad; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad, i’r cyfarfod.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am sut mae’r Comisiwn yn monitro’r gwasanaeth addysg, yn arbennig ei weithgareddau allanol.

·         Rhagor o wybodaeth am rôl y staff a gafodd dâl diswyddo gwirfoddol yn ystod y cynllun diswyddo gwirfoddol diwethaf a natur eu cyflogaeth.

·         Adroddiad diweddaraf y Bwrdd Rheoli.

(10:30-11:25)

3.

Craffu ar amcangyfrifon drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

FIN(4)-04-11  (Papur 2)

Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu

Malcolm MacDonald, Cynghorydd Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

3.1 Croesawodd y Pwyllgor Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu; a Malcolm MacDonald, Cynghorydd Ariannol, i’r cyfarfod.

 

3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am natur y cwynion yn erbyn cynghorwyr sirol.

Sesiwn Breifat

Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

(11:25-11:40)

4.

Aelodau yn ystyried y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod.

(11:40-12:00)

5.

Adroddiad drafft ar gynnig Llywodraeth Cymru i newid cynnig cyllideb drafft 2012-2013

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar gynnig Llywodraeth Cymru i newid cynnig cyllideb drafft 2012-2013, a gaiff ei gyhoeddi cyn hir.

Trawsgrifiad