Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones.

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09:05-10:00)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Simon White, Rheolwr y Bil

Ceri Breeze, Diprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1      Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar oblygiadau ariannol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).

 

 3.2     Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

(10:00-11:30)

4.

Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gary Watkins, Rheolwr Gwasanaethau Refeniw, Cyngor Caerdydd

Nick Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid Gweithredol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1      Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer ei ymchwiliad i Gasglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru.

 

 4.2     Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu gwybodaeth am feincnodi costau casglu'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig.

 

(11:30-12:30)

5.

Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Iestyn Davies, Uwch Bennaeth Materion Allanol (Gwledydd Datganoledig), Ffederasiwn Busnesau Bach

Janet Jones, Cadeirydd Uned Polisi Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1      Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ar ei ymchwiliad i Gasglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru a chytunodd i ddarparu gwybodaeth am lywodraethu.

 

(12:30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 7

Cofnodion:

6.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:30-12:40)

7.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Ystyried yr Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1      Cytunodd yr Aelodau i ddrafftio adroddiad gydag ychydig o newidiadau.

 

 7.2     Nododd yr aelodau'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.