Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC ac Alun Ffred Jones AC.

 

1.3        Croesawodd y Cadeirydd William Powell AC a oedd yn dirprwyo ar ran Peter Black AC.

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y papurau eu nodi.

 

(Penderfynodd y Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, i gwrdd yn breifat ar gyfer eitem 3, 4, 5 a 6.)

(09:05-09:15)

3.

Ystyriaeth Gychwynnol o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru).

 

3.2     Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i roi tystiolaeth ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) ac i ysgrifennu at bob awdurdod lleol a fynegodd ddiddordeb i uno'n wirfoddol i ofyn am wybodaeth ar y gost o lunio achosion busnes.

 

(09:15-09:25)

4.

Ystyried Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chynllun Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2015-2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y cynigion i ymgorffori Cynllun Blynyddol 2015-2016 Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru mewn cynllun busnes tair blynedd.  Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig gan ofyn i'r cynllun blynyddol barhau i gael ei gwblhau fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

(09:25-09:35)

5.

Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad - Ebrill-Rhagfyr 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad ar y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.

 

5.2     Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy am ragor o wybodaeth.

 

(09:35-10:15)

6.

Treth Trafodiadau Tir: Papur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Andrew Hewitt, Rheolwr Prosiect Polisi Treth Ddatganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cyflwynodd Llywodraeth Cymru wybodaeth i’r Pwyllgor ar Dreth Trafodiadau Tir.

 

(10:30-11:30)

7.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5

Nicholas Paines CF - Comisiynydd y Gyfraith sydd â chyfrifoldeb dros Cyfraith Gyhoeddus

Beth Gascoyne - Comisiwn y Gyfraith

David Connolly - Comisiwn y Gyfraith

 

Adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith ar yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei ymchwiliad i Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(11:30-12:15)

8.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei ymchwiliad i Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(12:15)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 10

 

Cofnodion:

9.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:15-12:30)

10.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1   Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.