Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09:30-10:45)

2.

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

FIN(4)-21-13 (papur 1)

FIN(4)-21-13 (papur 2)

 

Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru

Ben Arnold, Cynghorwr Polisi, Addysg Uwch Cymru

Dr David Blaney, Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllido, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, Ben Arnold, Cynghorwr Polisi i Addysg Uwch Cymru, 

Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllid, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.

 

Camau gweithredu:

 

2.1 Cytunodd Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

·       Data ar gymhariaethau rhanbarthol

·       Nifer y myfyrwyr AAB neu well sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor

·       Faint yn llai o fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

·       Data ar werth am arian o ran myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru

 

 

2.2 Cytunodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

·       Y tueddiadau o ran myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr (pan fo’r wybodaeth ar gael)

·       Nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

 

 

 

 

(10:55-11:35)

3.

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

FIN(4)-21-13 (papur 3)

 

Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.

 

Camau gweithredu:

 

2.1 Cytunodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch dadansoddi gwaith ymchwil sydd i ddod ar gymorth i fyfyrwyr, pan fo hynny ar gael yn y flwyddyn newydd

 

 

(11:35)

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papurau.

 

4a

Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15: Llythyr gan Angela Burns AC

FIN(4)-21-13(ptn1)

Dogfennau ategol:

(11:35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6, 7 & 8

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:40-11:50)

6.

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch.

 

(11:50-12:05)

7.

Y Bil Tai (Cymru)

FIN(4)-21-13 (papur 4)

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i wahodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i un o gyfarfodydd y Pwyllgor fel y gallai’r Aelodau ei holi ynghylch materion ariannol y Bil.

 

(12:05 - 12:20)

8.

Ymateb cychwynnol Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk Rhan 1

FIN(4)-21-13 (papur 5)

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i wneud gwaith pellach mewn perthynas â hyn.