Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Simon Thomas. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(09:00-10:00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15 FIN(4)-15-3 (Papur1) FIN(4)-15-3 (Papur 2) Angela Burns AC, Comisiynydd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nicola Callow, Pennaeth Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Roedd Peter Black AC yn
absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad. 2.2 Holodd yr Aelodau y
tystion a ganlyn am Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad: Angela Burns AC,
Comisiynydd; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nicola
Callow, Pennaeth Cyllid. 2.3 Gofynnodd y Pwyllgor i
Angela Burns AC ddarparu gwybodaeth bellach ar y ffigurau ar gyfer buddsoddi
mewn TGCh a'r meysydd y byddai'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi ynddynt. 2.4 Gofynnodd y Pwyllgor i
Angela Burns AC ddarparu nodyn ar nifer y ceisiadau gan ysgolion sydd am ymweld
â'r Cynulliad sy'n cael eu gwrthod, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o'r
wybodaeth hon. |
|
(10:00-11:00) |
Craffu ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru FIN(4)-15-3 (Papur 3) Peter Tyndall, Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru David Meaden, Cynghorwr Cyfreithiol Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Holodd yr Aelodau y
tystion a ganlyn am yr amcangyfrif drafft: Peter Tyndall, Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu; a David
Meaden, Cynghorwr Ariannol. |
|
(11:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd y papurau. |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6, 7 ac 8. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:00-11:10) |
Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a gafwyd ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-2015. 6.2 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a gafwyd ar amcangyfrif drafft yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus. 6.3 Bydd y Pwyllgor yn trafod
adroddiadau drafft ar y ddwy gyllideb yn ystod y cyfarfodydd dilynol. |
|
(11:20 - 11:30) |
Adroddiad Alldro Llywodraeth Cymru 2012-13: Trafod yr Adroddiad FIN(4)-15-3 (Papur 4) Cofnodion: 7.1 Nododd yr Aelodau y papur. |
|
(11:30-12:30) |
Sesiwn friffio gychwynnol ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru FIN(4)-15-3 (Papur 5) Angela Scott, Cynghorwr Arbenigol Cofnodion: 8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn
friffio gan Angela Scott, Cynghorwr Arbenigol. |