Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00-09:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones, ac roedd
Vaughan Gething yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
(09:05-10:00) |
Rheoli Asedau – Tystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd David Bentley, Pennaeth Rheoli Asedau, y Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) – Eiddo. 2.2 Holodd yr
Aelodau y tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at David Bentley gyda’r cwestiynau canlynol, sy’n canolbwyntio’n
benodol ar Reoli Asedau yng Nghymru: ·
Mae
strategaeth gyfalaf Llywodraeth Cymru, y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru
(WIIP), yn cyfeirio at reoli asedau ond dim ond o ran nodi'r angen i
ddefnyddio'r sylfaen asedau yn well. Yn
eich barn chi sut y dylai rheoli asedau yn y llywodraeth ganolog, ac yn y
sector cyhoeddus ehangach, gael ei gysylltu â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith
Cymru yn ymarferol? ·
Yn
eich papur, gan gyfeirio at gynlluniau rheoli asedau llywodraeth leol Cymru, yr
ydych yn nodi bod y rhan fwyaf o'r rhain yn cyfeirio i ryw raddau at amcanion
strategol neu bolisi, ond rhaid bod y cyfeiriadau hyn yn rhai gwirioneddol yn
ymarferol. Yn eich profiad chi, a yw’n
wir nad yw cysylltiadau o'r fath yn rhai gwirioneddol yn ymarferol, ac os yw
rheoli asedau'n cael ei weld fel gwasanaeth cefnogi mewn rhai meysydd, fel y
mae peth o'n tystiolaeth yn ei awgrymu, sut y gellir sicrhau bod cysylltiadau
strategol o'r fath yn fwy diriaethol? ·
Yn
eich papur mewn perthynas â gwersi a ddysgwyd o Gymru [tudalennau 13-14] yr ydych
yn rhoi deg enghraifft o lle yr ydych wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol mewn
perthynas â rheoli eiddo. A oedd y cyfan
o'r rhain yn awdurdodau lleol o Gymru a sut y mae'r trefniadau hyn yn codi, er
enghraifft a yw'r awdurdod yn cysylltu â chi am gymorth gyda phrosiect? |
|
Papurau i'w nodi FIN(4)-07-13 Papur
1 – Gwenda Thomas - Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar
oblygiadau ariannol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ymateb i’r
Dirprwy Weinidog yn gofyn am eglurhad ar nifer o faterion. |
||
(10:00-11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol Eitemau 5 a 8 |
|
(10:00-10:30) |
Rheoli Asedau – Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau. |
|
(10:30-10:40) |
Canllawiau i bwyllgorau eraill ar graffu ariannol Cofnodion: 6.1 Cymeradwyodd
y Pwyllgor ganllawiau drafft i bwyllgorau eraill ar graffu ariannol. |
|
(10:40-10:50) |
Cyllido Addysg Uwch – Ystyried cylch gorchwyl drafft Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y
Pwyllgor Gylch Gorchwyl drafft ei ymchwiliad sydd ar ddod ynghylch Cyllido
Addysg Uwch a thrafododd ddulliau o ymdrin â’r ymchwiliad. |
|
(10:50-11:00) |
Trafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2015 Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor gynigion ar gyfer ymdrin â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru
2014-2015. |