Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:00-13:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
|
|
(13:05-14:30) |
Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru Lesley Griffiths
AC, y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Busnes y Llywodraeth Piers Bisson Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus. Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Eiddo Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; Jane Hutt AC, y Gweinidog
Cyllid; Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Eiddo; a Deborah
Paramore, Rheolwr Rhaglenni, Tîm Diwygio GwasanaethAU Cyhoeddus. 2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidogion. Camau i’w cymryd: Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu’r canlynol: ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am arbedion a gafwyd o’r Strategaeth Lleoliad a
gwaith rheoli’r ystâd weinyddol; ·
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella
dibynadwyedd a chysondeb yn y gwaith o gyflwyno gwybodaeth er mwyn galluogi
meincnodi a rheoli perfformiad; ·
Enghreifftiau o ble y defnyddiwyd ceisiadau llwyddiannus Buddsoddi i Arbed
er mwyn mynd i’r afael â materion Rheoli Asedau; ·
Arbedion a wnaed gan ddefnyddio dull y Gweithgor Asedau Cenedlaethol, yn
gymesur ag arbedion a wnaed gan fodel y Scottish Futures Trust. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: |
||
(14:30-15:00) |
Ystyried y Dystiolaeth ar Reoli Asedau Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau. |
|
Trawsgrifiad |