Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30-09.35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Eitemau 4 a 5 |
||
(09.40-10.00) |
Craffu ariannol ar ddeddfwriaeth Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y gwaith o graffu ariannol ar ddeddfwriaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog / Aelod sy’n gyfrifol ac at Gadeirydd y Pwyllgor i sicrhau bod diwydrwydd digonol yn cael ei roi i’r gwaith o graffu ariannol ar Fil unigol. |
|
(10:00 - 10:20) |
Cyllido Addysg Uwch Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas ymchwiliad posibl i Addysg Uwch yng Nghymru a chytunodd i ystyried papur opsiynau mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10.30-11.30) |
Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley
Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol;
Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, yr Adran Iechyd
Gwasanaethau Cymdeithasol a
Phlant; a Val
Whiting, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant i’r cyfarfod. 5.2 Bu’r Pwyllgor yn
craffu ar waith y Gweinidog. Camau gweithredu: Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu:
|
|
(11:30-12:30) |
Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Croesawodd y Cadeirydd Edwina Hart AC, y Gweinidog
Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; James
Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol
yr Adran Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Chris
Sutton, Aelod o Fwrdd Parth Menter Canol
Caerdydd ac Aelod o Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes; a Tim Howard, Pennaeth Eiddo, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i’r Cyfarfod. 6.2 Bu’r Pwyllgor yn
craffu ar waith y Gweinidog. |
|
Papurau i'w nodi FIN(4) 05-13 (p3) Llythyr gan y Cadeirydd - Adroddiad alldro 2012 (Saesneg yn unig) FIN(4) 05-13 (p4) Papur 4 Y Gweinidog Cyllid Alldro - 2012 - FIN(4) 05-13 (p4) Y Gweinidog Cyllid Alldro - 2012 - Atodiad FIN(4) 05-13 (p5) Ymateb i bwyntiau gweithredu - 30 Ionawr, 2013 - Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) FIN(4) 05-13 (p6) Llythyr at Gadeirydd y Cynulliad Amcangyfrif Atodol y Pwyllgor Cyllid yn ail Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd ynghylch adroddiad alldro 2012 a’r ymateb gan y Gweinidog Cyllid; ymateb Llywodraeth Cymru i gamau gweithredu o’r cyfarfod ar 30 Ioanwr 2013; a’r Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor ar yr Amcangyfrif Atodol. |
||
(12.30-12.45) |
Ystyried y dystiolaeth - Rheoli asedau Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth ar ei ymchwliad i Reoli Asedau. |
|
Trawsgrifiad |