Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: |
|
(09.05-09.50) |
Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Christopher Chapman, Rheolwr Rhaglen – Effeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp ar y Cyd CLAW/ACES ar Eiddo ac Ystadau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Christopher
Chapman, Rheolwr Rhaglenni – Effeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru; a Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp Eiddo ac
Ystadau CLAW/ACES, i’r cyfarfod. 2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan ofyn
cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod trafodion y Pwyllgor. |
|
(9.50-10.30) |
Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gydwasanaethau GIG Cymru FIN(4) 03-13 – Papur 1 – Cydwasanaethau GIG Cymru Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Cyfleusterau, Cydwasanaethau GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Cyfleusterau,
Cydwasanaethau GIG Cymru, i’r cyfarfod. 3.2 Bu’r
Aelodau’n holi’r tyst. Camau i’w cymryd: Cytunodd
Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu: ·
Astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae GIG Cymru wedi
cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill ym maes rheoli asedau er mwyn gwella’r
broses o ddarparu gwasanaethau. ·
Rhestr o enghreifftiau sy’n dangos lle mae cyrff sydd
ynghlwm â GIG Cymru wedi defnyddio’r Protocol Trosglwyddo Tir yn effeithiol. |
|
(10.30-11.00) |
Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru FIN(4) 03-13 – Papur 2 – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Mathew Brown, Cymunedau Rheolwr Buddsoddi y Gronfa Peter Williams, Cyfarwyddwr,
Cymdeithas Ymddiriedolaethau
Datblygu Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Croesawodd y
Cadeirydd Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru; Mathew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol; a Peter Williams, Cyfarwyddwr Cymdeithas
Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru. 4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion. Cam i’w
gymryd: Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu: ·
Nodyn yn amlinellu enghreifftiau o sefydliadu
yn y sector gwirfoddol sy’n rheoli asedau fel adnoddau, a hynny er mwyn
gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau, ac sy’n gwneud hyn fel rhan o’u
strategaeth gyffredinol. |
|
(11.00 - 12.00) |
Cyllideb atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014 - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru FIN(4) 03-13 –
Papur 3 – Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014 Jane Hutt AC, y
Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Jo Salway,
Pennaeth Cyllidebu Strategol Matthew
Denham-Jones, Pennaeth Rheoli ac Adrodd Cyllidebau Jeff Andrews, Cynghorydd
Polisi Arbenigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Croesawodd y
Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol; Matthew
Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau; a Jeff Andrews, Cynghorydd
Polisi Arbenigol. 5.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog mewn perthynas â Chyllideb
Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14. Camau i’w cymryd: Cytunodd y Gweinidog i roi:
|
|
Papurau i'w nodi FIN(4) 03-13 –
Papur 4 – Buddsoddi i Arbed – Nodiadau o ymweliadau Aelodau FIN(4) 03-13 –
Papur 5 – Buddsoddi i Arbed – Llywodraeth Cymru – Ymateb i bwyntiau gweithredu
o gyfarfod ar 16 Ionawr 2013 Cofnodion y
cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 8 a 9. |
||
(12.00 - 12.15) |
Goblygiadau ariannol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: |
|
(12.15 - 12.30) |
Trafod tystiolaeth ar Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014 Cofnodion: |
|
(12:25-12:30) |
Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau Cofnodion: |
|
Trawsgrifiad |