Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
||
(9:00 - 9:45) |
Creu gwell synergedd rhwng cyllideb yr UE a chyllidebau cenedlaethol ac is-genedlaethol - papur safbwynt - Pwyllgor y Rhanbarthau, yr UE FIN(4) 02-13 – Papur 1 – Creu gwell synergedd rhwng cyllideb yr UE a chyllidebau cenedlaethol ac is-genedlaethol Rhodri Glyn Thomas AC, Pwyllgor y Rhanbarthau, yr UE Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Glyn Thomas AC, Pwyllgor y Rhanbarthau, yr UE; a Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2.2 Holodd yr Aelodau y tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd Rhodri Glyn Thomas i ddarparu: · Y wybodaeth ddiweddaraf am waith Pwyllgor y Rhanbarthau o ystyried ei adroddiad ar greu gwell synergedd rhwng cyllideb yr UE a chyllidebau cenedlaethol ac is-genedlaethol. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4 a 7. |
||
(9:45 - 10:00) |
Goblygiadau ariannol sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i’w hystyried ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
|
|
(10:30 - 11:30) |
Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus FIN(4) 02-13 – Papur 2 – Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus Dr Helen Paterson, Cadeirydd Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Sioned Evans, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Helen Paterson, Cadeirydd Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; a Sioned Evans, Cymorth i’r Rhaglen Waith ynghylch Caffael a Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Eiddo, Llywodraeth Cymru. 5.2 Holodd y Pwyllgor y tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus i ddarparu: · Rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer yr adeiladau cyhoeddus y gellid eu defnyddio fel llety; · Sesiwn i ddangos i’r Aelodau sut mae e-PIMS, sef cronfa ddata eiddo y sector cyhoeddus, yn gweithio; · Rhagor o wybodaeth ynghylch y naw prosiect peilot sy’n ymwneud â rheoli asedau a sut y cawsant eu dewis; · Nodyn ynglŷn â sut mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn mynd i’r afael â’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’ i nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da gan y gwasanaethau brys i ddarparu gwasanaethau o fewn y gyllideb, i wneud defnydd da o gydweithio a darparu newid trawsffurfiol. · Copi electronig o ddogfen Llywodraeth Cymru ynghylch Cyflwr yr Ystad. · Rhagor o wybodaeth sy’n rhagamcanu nifer yr adeiladau sy’n rhan o ystad weinyddol Llywodraeth Cymru.
|
|
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2013. |
||
(11:30 - 12:00) |
Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer ei ymchwiliad i’r broses o Reoli Asedau. |
|
|
Trawsgrifiad |
PDF 401 KB