Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30-09.35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(09.35-10.15) |
Buddsoddi i Arbed - Cyfoeth Naturiol Cymru FIN(4) 21-12 –
Papur 1 – Rhaglen Cymru Fyw Gretel Leeb, Uwch
Swyddog Cyfrifol, Swyddog Gweithredol Rhaglen ‘Cymru Fyw’ Rob Bell, Adran
Gyllid, Rhaglen ‘Cymru Fyw’ Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Gretel Leeb, Uwch Swyddog â Chyfrifoldeb, rhaglen Cymru Fyw; a Rob
Bell, yr Adran Gyllid, rhaglen Cymru Fyw, i’r cyfarfod. 2.2 Holodd y
Pwyllgor y tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd y
rhaglen Cymru Fyw ddarparu: ·
Rhagor
o wybodaeth am y pwerau benthyca sydd ar gael i’r rhaglen Cymru Fyw i ariannu’r
gwaith o sefydlu’r un corff amgylcheddol. ·
Rhagor
o wybodaeth am beth fyddai’r gwelliannau amgylcheddol a’r gwasanaethau i bobl a
busnesau o gyfanswm arbedion y prosiect. |
|
(10.15 - 10.30) |
Papurau i'w nodi FIN(4) 21-12 –
Papur 2 – Goblygiadau ariannol Bil Democratiaeth ac Etholiadau Llywodraeth
Cymru FIN(4) 21-12 –
Papur 4 – Ymateb i’r Gweinidog Cyllid i bwyntiau gweithredu a godwyd yn y
cyfarfod ar 7 Tachwedd 2012 (Buddsoddi i Arbed) FIN(4) 21-12 –
Papur 5 – Ymateb i’r ymgynghoriad ar y rhaglen Buddsoddi i Arbed gan UWIC FIN(4) 21-12 –
Papur 6 – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc FIN(4) 21-12 –
Papur 7 – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2013-14 Cofnodion y
cyfarfod blaenorol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1Nododd y
Pwyllgor y papurau, gan gynnwys papur preifat ychwanegol ar Gomisiwn Silk.
Nodwyd cofnodion y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2012 hefyd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7. Cofnodion: Eitemau 5 i 7 |
||
(10.30 - 10.45) |
Ystyried tystiolaeth ar y rhaglen Buddsoddi i Arbed Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i’r rhaglen Buddsoddi i Arbed. |
|
(10.45 - 11.15) |
Ystyried adroddiad drafft 'Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru' Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y
Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng
Nghymru’. |
|
(11.15 - 11.30) |
Ystyried y rhaglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2013 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllor ei blaenraglen ddrafft ar gyfer tymor y gwanwyn 2013. |
|
Trawsgrifiad |