Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10:00 - 10:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

 

(10:00 - 11:00)

2.

Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

FIN(4) 16-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ

Richard Clarke, Pennaeth y Uned Buddsoddi i Arbed
Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbenigol; a Richard Clarke, Pennaeth yr Uned Buddsoddi i Arbed.

 

2.2 Craffodd yr Aelodau ar waith y Gweinidog.

 

Camau Gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r saith argymhelliad a ddeilliodd o werthusiad interim Buddsoddi i Arbed.

·         Tabl yn amlinellu cyfanswm yr arbedion sydd wedi’u cyflawni gan brosiectau ers rhoi’r rhaglen Buddsoddi i Arbed ar waith.

·         Tabl o’r holl ad-daliadau a wnaed gan brosiectau Buddsoddi i Arbed ers rhoi’r rhaglen ar waith. 

·         Dadansoddiad blynyddol o’r prosiectau a gafodd eu cyhoeddi ym mhob rownd Buddsoddi i Arbed a’r dyfarniadau prosiect a gafodd eu cynnwys ym mhob dyraniad o’r gyllideb.

 

 

3.

Papurau i'w nodi

FIN(4) 19-12 – Papur 2 – Goblygiadau ariannol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol a chytunodd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth ariannol gadarn mewn perthynas â deddfwriaeth newydd.

 

 

3.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 a 6.

Cofnodion:

Eitemau 5 a 6.

 

 

(11:00 - 11:15)

5.

Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar yr ymchwiliad i Fuddsoddi i Arbed.

 

 

(11:15 - 12:00)

6.

Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried yr adroddiad drafft ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru tan ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2012.

 

 

 

 

Trawsgrifiad