Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:30 - 9:35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Datganodd
Peter Black fuddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad ac ni fyddai’n cymryd
rhan yn y gwaith o graffu ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad. |
|
(9:35 - 10:30) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-2014 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd
y Pwyllgor Angela Burns, Aelod o’r Cynulliad; Claire Clancy, Prif Weithredwr a
Chlerc y Cynulliad; a Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad. 2.2 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i: ·
Ddarparu
nodyn ar p’un a yw contractwyr yn cynnal safonau cydraddoldeb, cyflog byw ac
aelodaeth undeb llafur. ·
Ymateb
i bryderon a godwyd gan Mike Hedges AC ar fuddsoddiad TGCh; |
|
(10:30 - 11:25) |
Craffu ar amcangyfrifon drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Pwyllgor Peter Tyndall, Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu; a
Malcolm MacDonald, Cynghorydd Ariannol. 3.2 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion. Cam i’w gymryd: Cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i
ddarparu: ·
Rhagor
o fanylion am y cynnydd mewn cwynion yn gysylltiedig â’r sector iechyd, gan
gynnwys goblygiadau cyllidebol y cwynion hynny. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7. |
||
(11:25 - 12:00) |
Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar
gyfer 2013-2014. 6.2 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth ar amcangyfrifon drafft yr Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus. 6.3 Bydd adroddiadau
drafft ar y ddwy gyllideb yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor mewn cyfarfodydd
yn y dyfodol. |
|
Trawsgrifiad |