Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:00 - 13:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: |
|
(13:05 - 13:45) |
Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf FIN(4) 08-12 – Papur 1 – Cyfarwyddwyr Cyllid Llywodraeth
Leol yr Alban Cyfarwyddwyr Cyllid
Llywodraeth Leol yr Alban (drwy Gynhadledd Fideo) Bruce West,
Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute Ian Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Bruce West, Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute, ac Ian
Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire, i’r cyfarfod drwy gynhadledd
fideo. 2.2 Bu aelodau’r
Pwyllgor yn holi’r tystion. 2.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion
i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y
cyfarfod. |
|
(13:45 - 14:30) |
Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
Will McLean, Arweinydd Ymgysylltu a Phartneriaethau Strategol Cyngor Sir Fynwy;
a Peter Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod. 3.2 Bu aelodau’r
Pwyllgor yn holi’r tystion. 3.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion
i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y
cyfarfod. |
|
Papurau i'w nodi FIN(4) 08-12 – Papur 3 – Gohebiaeth gan y Thrysorlys EM –
Cyllid Datganoledig FIN(4) 07-12 – Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod yr ohebiaeth a gafwyd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a chytunodd
yr Aelodau i ymateb i’r llythyr, gan ofyn am eglurder ar y materion a ganlyn: ·
y
graddau y mae pwerau benthyg wedi’u cysylltu â phwerau trethu; ac ·
effaith
trosglwyddo’r risg mewn perthynas â phwerau codi trethi, ac yn benodol, yr
effaith y gallai pwerau codi trethi ei gael ar bwerau benthyg yn y dyfodol. 4.2 Cymeradwyodd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2012. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 6. Cofnodion: Eitem 6. |
||
(14:30 - 15:00) |
Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf Cofnodion: |
|
Trawsgrifiad |