Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09.30 - 10.30) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Papur 1 Carl Sargeant AC – Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Frances Duffy – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth Tim James – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Holodd yr Aelodau’r Gweinidog. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch yr hyn a ganlyn:
- Pan fydd yn briodol, y wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf
ysgrifenedig yn rhoi manylion am gynigion y Gweinidog ynghylch cludo nwyddau,
a’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un o’r
camau tuag at ddarparu a nodwyd yn Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru; - Manylion am y
trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd
arfaethedig ar gyfer yr M4; - Manylion am
waith a wnaed i wella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de; - Y wybodaeth
ddiweddaraf yn dilyn trafodaethau ar y cynllun newydd ar gyfer cyllido bysiau,
a darparu’r dangosyddion perfformiad allweddol i fesur llwyddiant y cynllun; - Mwy o
fanylion am ffigurau sylfaenol cyfraddau’r Grant Gweithredwyr Gwasanaethau
Bysiau a chymhariaeth â Lloegr, gan gynnwys cymhariaeth o gyfraddau’r grant cyn
eu lleihau, a chymhariaeth o’r cyfraddau newydd yng Nghymru a Lloegr ar ôl
cynnwys pob lwfans ac ad-daliad ychwanegol sydd ar gael; - Copi o’r
gwaith a wnaed gan gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar drafnidiaeth
ysbyty nad yw ar gyfer achosion brys; - Mwy o
wybodaeth am gyflawni a chyllido’r cynllun gweithredu cerdded a seiclo, gan
gynnwys cyfraddau llwyddiant a’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r cynllun; - Ffigurau sy’n
dangos yr hyn y mae’r Canolfannau Teithio Cynaliadwy wedi’i gyflawni ynghyd â
manylion am y cyllid refeniw a ddyrannwyd i’r cynllun Trefi
Teithio Cynaliadwy, yn hanesyddol ac ar gyfer y tair blynedd nesaf. |
|
(10.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth Papur 2 Papur 3 Yr Athro
Stuart Cole, Canolfan Ymchwil
Trafnidiaeth Cymru, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg Martin Evans, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Martin Evans a’r Athro Stuart Cole i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tystion. 3.2 Bydd y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn cael eu hanfon
at yr Athro Cole, a gytunodd i ddarparu nodyn. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat. |
||
(11.45 - 12.15) |
Trafod y Flaenraglen Waith - Ystyried ymchwiliad ar gyfer y dyfodol Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru a chytunodd ar y cylch gorchwyl drafft, er y bydd ambell newid yn cael ei wneud iddo. |
|
Papurau i'w nodi Papur 4 – Nodyn am gyfarfod grŵp gorchwyl a gorffen yr UE ar Gaffael ar 19 Ionawr Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |