Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(13.00-15.00)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Edwina Hart AM, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Ken Skates AM, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

  • Manylion am wneud y gorau o gyfraddau ymyrryd ar gyfer cyllid yr UE;
  • Manylion gwariant Llywodraeth Cymru ar Ardaloedd Menter a gwybodaeth am berfformiad ac allbynnau yn gysylltiedig â phob Ardal Menter;
  • Dadansoddiad o brosiectau twristiaeth sydd wedi’u cefnogi drwy TISS a’r rhai a ariennir drwy gynlluniau ariannu cyfalaf eraill
  • Rhestr o brif ddigwyddiadau a gefnogir ledled Cymru;                                                                        
  • Astudiaethau achos i ddangos y gwerth ychwanegol i gwmnïau o Gymru wrth gynnal digwyddiadau mawr;
  • Briff anffurfiol i Aelodau am brosiect Superfast Cymru;
  • Copïau o’r adroddiadau gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru ar ddulliau cynllunio trafnidiaeth strategol a rheoleiddio ariannu gwasanaethau bws;
  • Eglurhad o ba gyllideb fyddai’n ariannu unrhyw her gyfreithiol ar yr M4;
  • Eglurhad o’r amserlen ar gyfer y gwaith ‘Mynediad i Bawb’ a wneir yng Ngorsaf Llandaf;
  • Amserlen ar gyfer gwelliannau i Reilffordd Glynebwy.