Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
|
Trawsgrifiad
|
1. |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1.1 Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau.
|
3. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cofnodion:
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y
cynnig.
|
2. |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Edwina Hart AM, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth.
Ken Skates AM, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu’r canlynol:
- Manylion am wneud y gorau o gyfraddau ymyrryd ar
gyfer cyllid yr UE;
- Manylion gwariant Llywodraeth Cymru ar Ardaloedd
Menter a gwybodaeth am berfformiad ac allbynnau yn gysylltiedig â phob
Ardal Menter;
- Dadansoddiad o brosiectau twristiaeth sydd wedi’u
cefnogi drwy TISS a’r rhai a ariennir drwy gynlluniau ariannu cyfalaf
eraill
- Rhestr o brif ddigwyddiadau a gefnogir ledled Cymru;
- Astudiaethau achos i ddangos y gwerth ychwanegol i
gwmnïau o Gymru wrth gynnal digwyddiadau mawr;
- Briff anffurfiol i Aelodau am brosiect Superfast
Cymru;
- Copïau o’r adroddiadau gan Sefydliad Polisi
Cyhoeddus Cymru ar ddulliau cynllunio trafnidiaeth strategol a rheoleiddio
ariannu gwasanaethau bws;
- Eglurhad o ba gyllideb fyddai’n ariannu unrhyw her
gyfreithiol ar yr M4;
- Eglurhad o’r amserlen ar gyfer y gwaith ‘Mynediad i
Bawb’ a wneir yng Ngorsaf Llandaf;
- Amserlen ar gyfer gwelliannau i Reilffordd Glynebwy.
|