Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC, Eluned Parrott AC, David Rees
AC. Dirprwyodd Mike Hedges AC ar gyfer
Joyce Watson AC a dirprwyodd William Powell ar gyfer Eluned Parrott AC. |
|
Metro ar gyfer Dinas-ranbarth Prifddinas Cymru (09.50-10.50) Tystion: ·
James
Brown, Cyfarwyddwr, Powell Dobson Urbanists ·
Alan
Davies, Cyfarwyddwr Eiddo a Seilwaith, Capita Dogfennau ategol: EBC(4)-42-13(p1) – Crynodeb Gweithredol ynghylch y METRO EBC(4)-42-13(p2) - Astudiaeth o effaith y METRO (adroddiad llawn) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
James Brown, a oedd yn cynrychioli Powell Dobson Urbanists, ac Alan Davies, a
oedd yn cynrychioli Capita. |
|
Metro ar gyfer Dinas-ranbarth Prifddinas Cymru (11.00-12.00) Tystion: ·
Edwina Hart AC,
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru ·
Mark
Barry, Cynghorydd Arbennig ar Wasanaethau Metro, Llywodraeth Cymru ·
James
Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: EBC(4)-42-13(p3) – Papur
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Craffodd y
Pwyllgor ar waith Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth. Cefnogwyd y Gweinidog gan Mark Barry, Cynghorwr Arbennig ar y
Metro, Llywodraeth Cymru, a James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu adroddiad ar drefn y digwyddiadau a arweiniodd at y
sefyllfa bresennol o ran y Rhwydwaith Drafnidiaeth Traws-Ewropeaidd a rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth ymdrin â'r ffaith bod Cymru
wedi'i heithrio o'r coridorau rhwydwaith craidd arfaethedig ac ymgysylltiad
Llywodraeth Cymru â'r Comisiwn i gael mynediad at gyllid. 3.3 Cytunodd y
Gweinidog hefyd i ddarparu'r wybodaeth i'r Pwyllgor o fewn chwe mis am y
cynnydd a wnaed gan y Grŵp Annibynnol, sydd wedi cael y dasg o ddatblygu'r
argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y Metro, sef
"Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: astudiaeth effaith".
|
|
Papurau i’w nodi Dogfennau
ategol: EBC(4)-42-13(p4) – Llythyr y Gweinidog i holl
Aelodau’r Cynulliad ynghylch y fframwaith TEN-T Cofnodion
y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol
canlynol: Cofnodion y cyfarfod blaenorol EBC(4)-42-13(p3) – Llythyr y
Gweinidog at holl Aelodau'r Cynulliad am y fframwaith TEN-T |
|
Cynllunio'r Gwaith Craffu Ariannol (preifat) (13.00-14.00) Dogfennau ategol: EBC(4)-42-13 (p5) - Cynllunio'r Gwaith Craffu Ariannol Cofnodion: SESIWN BREIFAT |