Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC, a gafodd ei ddirprwyo gan Christine Chapman AC, a Julie James AC, a gafodd ei dirprwyo gan Julie Morgan AC. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Byron Davies AC a Dafydd Elis-Thomas AC; ni chafwyd unrhyw ddirprwyon ar eu cyfer.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i Horizon 2020 - Sesiwn friffio

Christina Miller – Cyfarwyddwr, Swyddfa Ymchwil y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Christina Miller, Cyfarwyddwr, Swyddfa Ymchwil y DU. Cyflwynodd y tyst sesiwn friffio i’r Aelodau, a holodd yr Aelodau’r tyst ynghylch yr ymchwiliad i Horizon 2020.

 

Pwynt Gweithredu:

 

 

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i Horizon 2020 - Sesiwn dystiolaeth

Papur 1

 

Addysg Uwch Cymru

Yr Athro Richard B Davies – Is-ganghellor Prifysgol Abertawe

Yr Athro Hywel Thomas – Dirprwy Is-ganghellor, Ymgysylltu a Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd

Mr Berwyn Davies - Pennaeth Swyddfa Brwsel, Addysg Uwch Cymru

 

Papur 2

 

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 

Yr Athro Philip GummettPrif Weithredwr, CCAUC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Richard B Davies – Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Hywel Thomas - Dirprwy Is-ganghellor, Ymgysylltu a Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd, Mr Berwyn Davies - Pennaeth Swyddfa Brwsel, Addysg Uwch Cymru a’r Athro Philip Gummett – Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Holodd Aelodau’r tystion ynghylch yr ymchwiliad i Horizon 2020.

 

 

 

 

 

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor gyfarfod yn breifat am weddill y busnes.

(11.30 - 12.00)

5.

Trafod y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith gan roi eu barn a’u syniadau am ymchwiliadau yn yr hydref.

Trawsgrifiad