Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Joyce Watson AC, Leanne Wood AC a Keith Davies AC. Roedd Gwyn Price AC yn dirprwyo ar ran Joyce Watson, roedd Dafydd Elis-Thomas AC yn dirprwyo ar ran Leanne Wood ac roedd Julie Morgan AC yn dirprwyo ar ran Keith Davies. |
||
(13.15 - 14.15) |
Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth Papur 1 Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru Ed Townsend, Dirprwy Arweinydd
ac Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio,
Cyngor Dinas Casnewydd Sheila Davies, Cyfarwyddwr Corfforaethol
ar gyfer Adfywio a’r Amgylchedd,
Cyngor Dinas Casnewydd Papur 2 Fforwm Economaidd Gogledd Cymru Sasha Wyn Davies, Cyngor Sir Ynys Môn (drwy fideogynadledda) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ed Townsend a Sheila Davies o Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru a Sasha Wyn Davies o Fforwm Economaidd Gogledd Cymru. Roedd Sasha Wyn Davies yn cymryd rhan drwy gyfrwng fideo gynhadledd. Holodd yr Aelodau y tystion. |
|
(14.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod |
|
(14.15 - 14.30) |
Cynnig cydsynio ynghylch y Gorchymyn, British Waterways Board (Transfer of Functions) Order Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor frîff gan y Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Swyddfa Ddeddfwriaeth am y cynnig cydsynio ynghylch y Gorchymyn, the British Waterways Board (Transfer of Functions) Order 2012. Credai’r pwyllgor ei fod arno angen rhagor o wybodaeth cyn y gallai ddod i gasgliad, a byddai’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei gasgliad. |
|
(14.30 - 14.45) |
Ymchwiliad i Horizon 2020 - cytuno ar y cylch gorchwyl Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad i Horizon 2020. |
|
Trawsgrifiad |