Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Sarah Bartlett
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cynhaliwyd y Cyfarfod yn gyfochrog â Phwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin. Roedd Karen Lumley AS, Nia Griffith AS, Jonathan Edwards AS, Geraint Davies AS, Guto Bebb AS a Stuart Andrew AS yn bresennol yn y cyfarfod. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin i’r cyfarfod a diolchodd iddynt am ddod. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC, Sian James AS, Susan Elan Jones AS, Mark Williams AS, Robin Williams AS a Jessica Morden AS. Roedd Mike Hedges AC yn dirprwyo ar ran Joyce Watson AC. |
||
(10.15 - 11.15) |
Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth Adran
Drafnidiaeth Llywodraeth y DU Papur 1 Jonathan Moor, Cyfarwyddwr, Awyrennu Richard Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Masnach a Seilwaith Morol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jonathan Moor a Richard Bennett o’r Adran Drafnidiaeth. Bu’r Aelodau yn holi’r tyst. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Gwnaeth y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat. |
||
(11.15 - 12.00) |
Ystyried y llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: 4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nodwyd y papurau. |
||
Trawsgrifiad |