Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Papur 1

Carl Sargeant AC – Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Frances Duffy – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth

Tim James – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Holodd yr Aelodau’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch yr hyn a ganlyn:

         

- Pan fydd yn briodol, y wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf ysgrifenedig yn rhoi manylion am gynigion y Gweinidog ynghylch cludo nwyddau, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un o’r camau tuag at ddarparu a nodwyd yn Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru;

- Manylion am y trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd arfaethedig ar gyfer yr M4;

- Manylion am waith a wnaed i wella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de;

- Y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn trafodaethau ar y cynllun newydd ar gyfer cyllido bysiau, a darparu’r dangosyddion perfformiad allweddol i fesur llwyddiant y cynllun;

- Mwy o fanylion am ffigurau sylfaenol cyfraddau’r Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a chymhariaeth â Lloegr, gan gynnwys cymhariaeth o gyfraddau’r grant cyn eu lleihau, a chymhariaeth o’r cyfraddau newydd yng Nghymru a Lloegr ar ôl cynnwys pob lwfans ac ad-daliad ychwanegol sydd ar gael;

- Copi o’r gwaith a wnaed gan gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar drafnidiaeth ysbyty nad yw ar gyfer achosion brys;

- Mwy o wybodaeth am gyflawni a chyllido’r cynllun gweithredu cerdded a seiclo, gan gynnwys cyfraddau llwyddiant a’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r cynllun;

- Ffigurau sy’n dangos yr hyn y mae’r Canolfannau Teithio Cynaliadwy wedi’i gyflawni ynghyd â manylion am y cyllid refeniw a ddyrannwyd i’r cynllun Trefi Teithio Cynaliadwy, yn hanesyddol ac ar gyfer y tair blynedd nesaf.

 

(10.30 - 11.45)

3.

Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 2

Papur 3

Yr Athro Stuart Cole, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg

Martin Evans, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Martin Evans a’r Athro Stuart Cole i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tystion.

 

3.2 Bydd y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn cael eu hanfon at yr Athro Cole, a gytunodd i ddarparu nodyn.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat.

 

(11.45 - 12.15)

5.

Trafod y Flaenraglen Waith - Ystyried ymchwiliad ar gyfer y dyfodol

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru a chytunodd ar y cylch gorchwyl drafft, er y bydd ambell newid yn cael ei wneud iddo. 

6.

Papurau i'w nodi

Papur 4 – Nodyn am gyfarfod grŵp gorchwyl a gorffen yr UE ar Gaffael ar 19 Ionawr

 

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad