Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
David Rees AC, Byron Davies AC a Mick Antoniw AC. Dirprwyodd Ann Jones AC ar
ran Mick Antoniw AC. |
|
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 11) (09.15-09.45) Tyst: Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr
Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd. |
|
Mentrau Cymdeithasol (10.00-11.00) Tystion: Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Matthew Brown, Rheolwr Buddsoddi mewn Cymunedau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Anne-Marie Rogan, Prif Weithredwr YMCA Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Phil Fiander, Cyfarwyddwr
Rhaglenni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Matthew Brown, Rheolwr Buddsoddi
mewn Cymunedau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; ac Anne-Marie Rogan, Prif
Weithredwr YMCA Abertawe. |
|
Mentrau Cymdeithasol (11.00-12.00) Tystion: Edwina
Hart AC, Gweinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Yr Athro
Andrew Davies, Cadeirydd
Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan
Cydweithredol Cymru Dogfennau
ategol: EBC(4)-10-14
(p.3) - Adroddiad
Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/welsh-coop-mutuals-commission/?lang=cy Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru; Yr Athro Andrew
Davies, Cadeirydd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru; a
Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dangosyddion perfformiad ar gyfer
cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau cymdeithasol yn ei diweddariad
chwe misol i'r Pwyllgor. |
|
Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi (14.00-15.00) Tystion: Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog
Cymru Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Gary Davies, Pennaeth yr Is-adran Materion Ewropeaidd ac Allanol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y
Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, a Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cawsant eu cefnogi gan James
Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
Llywodraeth Cymru a Gary Davies, Pennaeth yr Is-adran Materion Allanol,
Llywodraeth Cymru Ewrop a. 5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: -
Nodyn ar gyfanswm nifer staff UKTI sydd wedi'u lleoli'n barhaol yng
Nghymru a sut mae'r niferoedd hyn yn cymharu â'r sefyllfa yn yr Alban; -
Nodyn ar y gyfran o gwmnïau o dramor sy'n gweithredu yng Nghymru ac sy'n
derbyn cymorth ôl-ofal uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r rhai
sy'n cael cefnogaeth gan UKTI. Hefyd, syniad o'r cwmnïau hynny y mae'r
Llywodraeth mewn cysylltiad â hwy yn rheolaidd, h.y. o leiaf unwaith bob chwe
mis, a'r rhai y mae'n cysylltu â hwy yn llai rheolaidd; -
Nodyn ar ddull gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru o ran cofnodi a
chyhoeddi ffigurau mewnfuddsoddi yng ngoleuni newidiadau yn y diffiniad a
ddefnyddir gan UKTI (h.y. 10 y cant perchnogaeth dramor, yn hytrach na 50 y
cant) a sut mae'r trothwy ar gyfer canran perchnogaeth dramor a ddefnyddir gan
UKTI yn cymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill. |
|
Papurau i’w nodi Papur preifat (rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Strategaeth Technoleg) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a ganlyn: Papur preifat (rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Strategaeth Technoleg) |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymweliad fel rhan o'r ymchwiliad i
dwristiaeth, sgwrs gwe gyda myfyrwyr addysg bellach ac uwch a sgwrs gwe ar
faterion yn ymwneud â'r rhywiau a phynciau STEM. |