Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Policy: Siân Phipps  Legislation: Liz Wilkinson

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James, yr oedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei rhan, a chan Dafydd Elis-Thomas.

 

(09.30-11.15)

2.

Bil Teithio Llesol (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn Dystiolaeth 1

 

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Victoria Minshall-Jones, Rheolwr Tîm y Mesur

John DC Davies, Cyfreithiwr

 

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Bil, Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Camau Gweithredu

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

·         Ffigurau’n dangos y newid yn nifer y bobl sy’n cerdded a seiclo at ddibenion hamdden ers cyflwyno mentrau Llywodraeth Cymru.

 

·         Nodyn yn rhoi rhagor o fanylion am y cyfuno ariannol er mwyn cyflwyno’r Bil a mentrau teithio eraill.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunwyd ar y cynnig.

 

(11.25-11.45)

4.

Papur cwmpasu ar yr Ymchwiliad i Annog Entrepreneuriaeth