Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Chloe Davies

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC. Roedd Mike Hedges AC yn dirprwyo ar ei rhan.

2.

Sesiwn ddiweddaru: Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (13:30 - 14:00)

Yr Athro Danuta Maria Hübner ASE, Cadeirydd, y Pwyllgor ar Ddatblygu Rhanbarthol

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Danuta Maria Hübner ASE, a roddodd dystiolaeth drwy gyfrwng fideo gynhadledd. Bu’r Aelodau yn holi’r tyst.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd (14.00 - 15.00)

Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

Damien O'Brien, Prif Weithredwr, WEFO

 

Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol yr UE ac atebodd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cam i’w gymryd:

Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu nodiadau ar y pwynt a ganlyn:

·         Canran rhaglenni’r UE y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwario ar fesur a gwerthuso llwyddiant y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol sy’n cael eu rheoli a’u gweithredu gan Lywodraeth Cymru (drwy WEFO)

 

Papur ychwanegol gan y Gweinidog

Trawsgrifiad