Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
||
(09.30 - 10.30) |
Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol HSC(4)-03-12 papur 1
Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr
Meddygol GIG Cymru David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru Egwyl 10.30 – 10.40 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn ymateb i
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth,
yn ôl cais y Pwyllgor, am: nifer y swyddi gwag sydd ar gael ar gyfer meddygon yng
Nghymru, a gradd y swyddi hyn; y meini prawf a gaiff eu defnyddio i fesur
llwyddiant yr ymgyrch sydd ar y gweill i recriwtio meddygon i Gymru; a nifer yr
ymwelwyr iechyd sydd eu hangen i ddyblu nifer y bobl sy’n elwa o’r rhaglen
Dechrau'n Deg. 2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y trafodaethau sy’n cael eu cynnal â Llywodraeth y
DU am reoleiddio mewn perthynas â darparwyr preifat llawdriniaeth gosmetig, ac
i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cadair olwyn a chymorth ar
gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru. |
|
(10.40 - 11.10) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor - materion yr UE HSC(4)-03-12 papur 2 - Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion polisi yr Undeb Ewropeaidd
sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol (Ystyriwyd y papur hwn gan
y Pwyllgor yn wreiddiol ar 8 Rhagfyr 2011) HSC(4)-03-12 papur 3 - Deddfwriaeth yr UE mewn perthynas ag anghydraddoldebau iechyd HSC(4)-03-12 papur 4 – Proses gymeradwyo cyffuriau’r UE HSC(4)-03-12 papur
5 – Modelau o berchnogaeth ar gyfer gofal
preswyl i bobl hŷn
yn aelod-wladwriaethau’r UE
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cytunodd y
Pwyllgor mai drwy ei waith cymharol ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i
bobl hŷn y dylai’r Pwyllgor fynd
i’r afael yn bennaf â materion yr UE yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf. 4.2 Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol am fodelau
gofal preswyl yn yr UE, gan gynnwys modelau dielw a ddefnyddir mewn gwledydd
eraill, ac unrhyw wybodaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
drwy’r broses o efeillio awdurdodau lleol yng Nghymru â chymheiriaid yn Ewrop. 4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am y
strategaeth iechyd, y cyfarwyddyd ar gymwysterau proffesiynol a mynediad
traws-ffiniol i wasanaethau gofal iechyd. |
|
(11.10) |
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr Dogfennau ategol: Cofnodion: |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |