Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Nid oedd dim dirprwyon. |
||
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol yr Alban HSC(4)-12-11
papur 1- Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban Elspeth Weir, Pennaeth Polisi a Datblygu, Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban Malcolm Clubb, Uwch Fferyllydd Polisi a Datblygu, Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban HSC(4)-12-11
papur 2 – Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Alex MacKinnon, Cyfarwyddwr yr Alban, y Gymdeithas Fferyllol
Frenhinol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd. 2.2 Cytunodd tystion o Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban ddarparu: · copi o adroddiad gan Lywodraeth yr Alban ar ei adolygiad o wasanaeth iechyd cyhoeddus y fferyllfeydd cymunedol ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu a dulliau brys o atal cenhedlu hormonaidd; · linc i adroddiad gan Brifysgol Manceinion ar y newid mewn dulliau ymgynghori â chleifion mewn gofal sylfaenol a oedd yn archwilio i nifer y bobl yn yr Alban a ddefnyddiodd y Gwasanaeth Mân Anafiadau yn yr Alban. |
|
(10.30 - 10.35) |
Deiseb ar y Ddarpariaeth o Doiledau Cyhoeddus yng Nghymru – Ystyried dull y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cyndeithasol o weithredu HSC(4)-12-11 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar ei ddull o weithredu mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y dylai ei waith ganolbwyntio ar y diffyg darpariaeth toiledau cyhoeddus ac effaith hyn ar iechyd y cyhoedd, ac y dylai’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 23 Rhagfyr 2011. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu sefydliadau ychwanegol at y rhestr ymgynghori arfaethedig. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd HSC(4)-10-11 cofnodion Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd. |
||
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru HSC(4)-12-11 papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru. |
||
(10.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6 Cofnodion: 5.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6. |
|
(10.35 - 11.00) |
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafodaeth breifat am y materion sy'n codi Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y materion sy’n codi o’i ymchwyliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymuneol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. |
|
Trawsgrifiad |