Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

2.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (09:30 - 10:30)

HSC(4)-04-11 papur 1

Mair Davies, Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru

Paul Gimson, Cyfarwyddwr dros Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am fodel fferyllfeydd cymunedol yr Alban, gan gynnwys ariannu gwasanaethau TG a rennir.

 

2.3 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am y datganiad ar y cyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch cydweithredu.

3.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru (10:30 - 11:30)

HSC(4)-04-11 papur 2

Russell Goodway, Prif Weithredwr

Ian Cowan, Cadeirydd

Chris James, Is-gadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd y tystion i rannu â’r Pwyllgor ganlyniadau’r arolwg y maent yn ei gynnal i gontractwyr fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru o’r gwasanaethau ychwanegol a gomisiynwyd gan y Bwrdd Iechyd lleol ac sy’n cael ei ddarparu, a pha wasanaethau fyddai o werth i’w cymunedau lleol ond nad ydynt wedi’u comisiynu gan y Bwrdd Iechyd lleol ar hyn o bryd.

4.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Cytuno ar y cylch gorchwyl (11:30 - 11:40)

HSC(4)-04-11 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyfeirio at gydbwysedd y ddarpariaeth rhwng cartrefi gofal preifat a chyhoeddus a’r llwybr i ofal preswyl yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid anfon cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad at randdeiliaid ac y dylid rhoi pythefnos er mwyn iddynt gyflwyno eu sylwadau arno.

Trawsgrifiad