Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.15 – 10.15) |
Ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Yr Athro
Roger Walker, Prif Swyddog Fferyllol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r
Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau. 2.2
Cytunodd y Gweinidog i gadarnhau’n ysgrifenedig y dyddiad y bydd y
cyd-adolygiad gan y Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r
gwasanaeth cenedlaethol rhoi’r gorau i ysmygu yn cael ei gwblhau. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.45) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 4.1 Bu’r
Aelodau’n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn ei thrafod
ymhellach yn y dyfodol. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Cyflwyniad gan Heddlu Gwent Ditectif Brif Arolygydd Roger Fortey Arolygydd Catherine Hawke Rhingyll Jennie Tinsley Cofnodion: 5.1
Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad ar sylweddau seicoweithredol newydd i Aelodau. |