Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.30 - 10.30)

2.

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-03-12 papur 1

         

          Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau                  Cymdeithasol

          Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru   

 

Egwyl 10.30 – 10.40

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth, yn ôl cais y Pwyllgor, am: nifer y swyddi gwag sydd ar gael ar gyfer meddygon yng Nghymru, a gradd y swyddi hyn; y meini prawf a gaiff eu defnyddio i fesur llwyddiant yr ymgyrch sydd ar y gweill i recriwtio meddygon i Gymru; a nifer yr ymwelwyr iechyd sydd eu hangen i ddyblu nifer y bobl sy’n elwa o’r rhaglen Dechrau'n Deg.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y trafodaethau sy’n cael eu cynnal â Llywodraeth y DU am reoleiddio mewn perthynas â darparwyr preifat llawdriniaeth gosmetig, ac i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cadair olwyn a chymorth ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru.

(10.40 - 11.10)

3.

Blaenraglen waith y Pwyllgor - materion yr UE

HSC(4)-03-12 papur 2 - Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion polisi yr Undeb Ewropeaidd sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ystyriwyd y papur hwn gan y Pwyllgor yn wreiddiol ar 8 Rhagfyr 2011)

 

HSC(4)-03-12 papur 3 - Deddfwriaeth yr UE mewn perthynas ag anghydraddoldebau iechyd

HSC(4)-03-12 papur 4 – Proses gymeradwyo cyffuriau’r UE

HSC(4)-03-12 papur 5 – Modelau o berchnogaeth ar gyfer gofal preswyl i bobl hŷn yn aelod-wladwriaethau’r UE

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor mai drwy ei waith cymharol ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn y dylai’r Pwyllgor fynd i’r afael yn bennaf â materion yr UE yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf.

 

4.2 Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol am fodelau gofal preswyl yn yr UE, gan gynnwys modelau dielw a ddefnyddir mewn gwledydd eraill, ac unrhyw wybodaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru drwy’r broses o efeillio awdurdodau lleol yng Nghymru â chymheiriaid yn Ewrop.

 

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am y strategaeth iechyd, y cyfarwyddyd ar gymwysterau proffesiynol a mynediad traws-ffiniol i wasanaethau gofal iechyd.

(11.10)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr.

Trawsgrifiad