Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Nid oedd dirprwy. |
||
(10.15 - 10.30) |
Y dull o ystyried deddfwriaeth HSC(4)-10-11 papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y papur a thrafododd ei ddull
cyffredinol o ystyried deddfwriaeth. 2.2 Mewn
perthynas â’r papur gwyn ar roi organau, cytunodd y Pwyllgor i geisio cynnal
dwy sesiwn gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, yn gyntaf ar ddechrau’r broses
ymgynghori ac eto ar ôl cau’r ymgynghoriad. Diben y sesiynau hyn fyddai cael y
wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y papur gwyn, yn hytrach na mynegi barn ar
ei gynnwys. |
|
(10.30 - 11.15) |
Ymchwiliad i gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yn Nghymru - tystiolaeth gan Gyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan HSC(4)-10-11 papur 2
Catherine O’Sullivan, Prif Swyddog Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd y tystion gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor am gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. 3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr adolygiad o wasanaethau fferylliaeth. |
|
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5. |
|
(11.15 - 11.45) |
Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - trafodaeth breifat am y prif faterion Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur ar y prif faterion ar gyfer yr ymchwiliad i leihau’r risg o strôc. Cytunodd y byddai’n ystyried prif negeseuon ac argymhellion y papur yn y cyfarfod nesaf. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd
ar 2 Tachwedd HSC(4)-09-11 minutes Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim HSC(4)-10-11 papur 3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch adroddiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru ar Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion HSC(4)-10-11 papur 4 Llythyr gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru ynghylch y Gwasanaeth Meddyginiaethau Rhyddhau o Ysbyty HSC(4)-10-11 papur 5 Blaenraglen waith y Pwyllgor – Hydref 2011 HSC(4)-10-11 papur 6 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd y
Pwyllgor y byddai’n parhau i gael cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel papurau
i’w nodi, ac y dylai Aelodau hysbysu’r Clerc am unrhyw faterion y maent am eu
codi mewn perthynas â nhw. 6.2 Bu’r Pwyllgor
yn trafod y llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb am eli
haul ar gyfer plant dan 11 oed. Cytunodd y Pwyllgor bod y ddeiseb yn fwy
perthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy’n gyfrifol am
faterion iechyd plant. 6.3 Nododd y
Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am
wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. 6.4 Nododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith hyd at doriad y Nadolig. |
||
Trawsgrifiad |