Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Derbyniwyd ymddiheuriad gan Darren Millar. Nid oedd dirprwyo. |
|
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ffyrdd o weithio Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nododd y pwyllgor ei rôl ddeuol o graffu ar ddeddfwriaeth a pholisi a nododd benderfyniad y Pwyllgor Busnes i amserlennu diwrnod a hanner bob pythefnos i’r pwyllgor drefnu ei waith. 2.2 Cytunodd y pwyllgor i ymgynghori â chyrff allanol yn ystod toriad yr haf ar ei ffyrdd o weithio a thestunau posibl ymchwiliadau yn y dyfodol. |
|
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Trafod materion o fewn portffolio y Pwyllgor ac ystyried ei flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cytunodd y pwyllgor y byddai’n gwahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod ar 13 Gorffennaf i roi cyflwyniad cyffredinol am eu portffolios a’u blaenoriaethau. Byddent wedyn yn cael eu gwahodd i sesiwn graffu mwy manwl ar ddechrau tymor yr hydref. 3.2 Cytunodd y pwyllgor y byddai’n dechrau ymchwiliad cyn toriad yr haf ac y byddai’r gwasanaeth ymchwil yn paratoi papur erbyn y cyfarfod nesaf yn nodi cwmpas ymchwiliadau posibl. Byddai’r papur hwn wedi’i seilio ar bynciau a awgrymwyd gan Aelodau ac ar argymhellion adroddiadau etifeddiaeth pwyllgorau’r Trydydd Cynulliad 3.3 Byddai’r pwyllgor yn ystyried ei raglen waith ar gyfer yr hirdymor yn yr hydref, pan fyddai rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth wedi ei chyhoeddi. |
|
Trawsgrifiad |