Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.15 – 10.15)

2.

Ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Yr Athro Roger Walker, Prif Swyddog Fferyllol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i gadarnhau’n ysgrifenedig y dyddiad y bydd y cyd-adolygiad gan y Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r gwasanaeth cenedlaethol rhoi’r gorau i ysmygu yn cael ei gwblhau.

 

 

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.45)

4.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn ei thrafod ymhellach yn y dyfodol.

 

(11.00 - 12.00)

5.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Cyflwyniad gan Heddlu Gwent

Ditectif Brif Arolygydd Roger Fortey

Arolygydd Catherine Hawke

Rhingyll Jennie Tinsley

Cofnodion:

5.1 Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad ar sylweddau seicoweithredol newydd i Aelodau.