Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:20 - 09:30)

2.

Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.    Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w lythyr.

 

2.2.    Cytunodd aelodau'r Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion canlynol:

  • i ofyn am eglurhad ynghylch yr amserlenni ar gyfer cynnal llawdriniaethau carotid;
  • i fynegi gobaith y Pwyllgor y byddai'r Gweinidog yn ystyried dwyn ymlaen y dyddiad dechrau ar gyfer yr ymgyrch benodol ar ymwybyddiaeth strôc, a amlinellwyd fel 2014/15 yn y llythyr.

 

(09:30 - 10:20)

3.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 12

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Yr Athro Peter Barrett-Lee, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol.

 

Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr

Dr Richard Clements, Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog Cymru a Radiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan;

Dr Martin Rolles, Ysgrifennydd Pwyllgor Sefydlog Cymru ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.    Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

(10:20 - 11:10)

4.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 13

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

Dr Alan Rees, Is-lywydd Cymru.

 

Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi Cymru

Dr Miles Allison, Meddyg ymgynghorol, cyfarwyddwr clinigol gastroenteroleg ac is-lywydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

Coleg Brenhinol y Llawfeddygon

Jared Torkington, Llawfeddyg ymgynghorol laparosgopig y colon a'r rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.    Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2.    Gofynnodd Leighton Andrews AC am nodyn gan Lywodraeth Cymru am yr enghraifft a roddwyd gan Jared Torkington o gynllun hyfforddiant a gyflwynwyd yng Nghymru ar gyfer llawdriniaeth y colon a'r rhefr laparosgopig.

 

(11:20 - 12:30)

5.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 14

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Nazia Hussain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.    Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2.    Dywedodd y Dr Nazia Hussain y byddai'n darparu:

  • nodyn am y modd y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn ystyried llais cleifion wrth ddatblygu ei ddulliau gweithredu yn achos technolegau ac arloesedd, a'r modd y mae'r Coleg yn credu y dylai llais cleifion gael ei ystyried yn y broses arfarnu a chomisiynu;
  • nodyn yn egluro a yw'r defnydd o dechnolegau meddygol yn rhan o'r broses ailddilysu ar gyfer meddygon teulu, neu a fydd yn rhan o'r broses.

 

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.    Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2014.

 

Adroddiad am waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Nododd yr Aelodau eu siom sylweddol bod canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'u datgelu cyn pryd.

 

Trafododd yr Aelodau ddatganiad gan y Gweinidog a gyhoeddwyd y bore hwnnw yn ymwneud â threfniadau newydd ar gyfer ymdrin â phryderon difrifol ynghylch gwasanaethau a sefydliadau'r GIG. Holodd yr Aelodau ynghylch amseriad y datganiad, o ystyried ei fod yn berthnasol i adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Eglurwyd ar ôl y cyfarfod bod y datganiad wedi deillio o waith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyswllt trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 1 a 2 o'r cyfarfod ar 26 Mawrth.

Cofnodion:

7.1.    Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.