Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Janet Finch-Saunders i'r Pwyllgor ac estynnodd ddiolch i William Graham am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.

 

(09:15 - 10:15)

2.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Byrddau Iechyd Lleol

Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Dr Geoffrey Carroll, Cyfarwyddwr Meddygol

Dr Phil Webb, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Fiona Jenkins o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Pushpinder Mangat o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Dr Geoffrey Carroll a Dr Philip Webb o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.

 

2.2 Ar ddiwedd y sesiwn, cytunodd Dr Webb i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu un argymhelliad allweddol y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ei wneud i'r Pwyllgor mewn perthynas â gwella'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru a sut y gellid cyflawni hyn.

(10:15 - 11:05)

3.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 7

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mark Roscrow, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Caffael

 

Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol

Pete Phillips, Cyfarwyddwr

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Alun Tomkinson, Llawfeddyg Clust, Trwyn a Gwddf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Mark Roscrow o Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG, Pete Phillips o'r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol, ac Alun Tomkinson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnod y cyfarfod ar 5 Chwefror 2014

 

Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch effeithiolrwydd Pwyllgorau wrth wneud gwaith craffu ar y Gyllideb

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2014.

 

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch gwaith craffu effeithiol y Pwyllgor ar y Gyllideb a chytunodd y dylai'r Cadeirydd ateb y Pwyllgor Busnes a chadarnhau bod y Pwyllgor yn cefnogi adolygiad o broses y gyllideb

(11:05)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11:15 - 12:15)

6.

Trafodaeth breifat ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar Waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

(12:15 - 12:30)

7.

Ystyried dull gweithio’r Pwyllgor ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod a chytunodd ar ei ddull gweithio ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.