Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar. |
||
(09:15 - 09:30) |
Sesiwn ddilynol i'r sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Deintyddol (Rhagfyr 2013) Cofnodion: 2.1
Ailedrychodd y Pwyllgor ar y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol
yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref a chytunodd
y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru. |
|
(09:30 - 10:10) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - ystyried y prif faterion Cofnodion: 3.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y materion allweddol a godwyd yn ystod gwaith craffu'r
Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a chytuno arnynt. |
|
(10:10 - 10:50) |
Trafodaeth gychwynnol ar gynllun strategol y Pwyllgor ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad Cofnodion: 4.1
Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth gychwynnol ar ei gynllun strategol ar gyfer
gweddill y Pedwerydd Cynulliad. 4.2 Cytunodd
y Pwyllgor i ymchwilio i'r meysydd canlynol i'w hystyried ymhellach: ·
Gwasanaethau orthodontig ·
Cynllun cyflawni ar gyfer canser ·
Gofal iechyd mewn carchardai ·
Talu am ofal ·
Gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Fesur Iechyd Meddwl
(Cymru) ·
Cynllun cyflenwi ar gyfer clefyd yr afu ·
Gofal y galon ·
Clefyd / llid Crohn 4.3
Ymrwymodd y Pwyllgor i ddychwelyd i ymholiadau blaenorol i wneud gwaith craffu
dilynol, gan flaenoriaethu'r pynciau canlynol yn y lle cyntaf: ·
Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013-14 ·
Fferylliaeth gymunedol ·
Marw-enedigaethau ·
Gwasanaethau cadeiriau olwyn 4.4 Cytunodd
y Pwyllgor i barhau i gynnal sesiynau craffu cyffredinol gyda'r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol, y Prif Swyddogion Iechyd Proffesiynol, Arolygiaeth Gofal Iechyd
Cymru, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. 4.5 Cytunodd
y Pwyllgor hefyd i gadw hyblygrwydd o fewn y flaenraglen waith er mwyn ystyried
deddfwriaeth ac unrhyw fater brys neu bwysig a allai godi yn ystod gweddill y
Pedwerydd Cynulliad. |
|
(11:00 - 12:00) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - sesiwn friffio ragarweiniol gan yr ymgynghorydd arbenigol Dr
Alex Faulkner, cynghorwr arbenigol ar gyfer yr ymchwiliad Cofnodion: 5.1 Cafodd y
Pwyllgor gyflwyniad rhagarweiniol gan Dr Alex Faulkner, sydd wedi ei benodi yn
ymgynghorydd arbenigol i'r Pwyllgor at ddibenion yr ymchwiliad i fynediad i
dechnolegau meddygol yng Nghymru. |
|
(13:00 - 13:30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Theuluoedd - Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog
Meddygol, i gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor. 6.2 Cytunodd
y Prif Swyddog Meddygol y byddai'n ceisio adolygu'r dystiolaeth yn ymwneud â'r
effaith y gallai pecynnau plaen ei chael ar ddewis ysmygwyr o sigaréts tar
isel. Cytunodd i ymateb i'r cwestiwn hwn mewn pryd ar gyfer y ddadl Cyfarfod
Llawn, sydd i'w chynnal ar 21 Ionawr, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol
perthnasol. 6.3. Gofynnodd y Pwyllgor fod
y llythyr yr ysgrifennodd y Gweinidog at Weinidog y DU dros iechyd cyhoeddus
ynghylch rheoleiddio pecynnau manwerthu cynhyrchion tybaco gael ei rannu cyn y
ddadl Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf, os nad yw eisoes yn ddogfen gyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog y gall fod cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyfathrebu rhwng y
Gweinidogion ond byddai'n ystyried beth ellid ei wneud. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 a 11 Rhagfyr 2013. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi’i gyfeirio at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, mewn perthynas â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7a.1 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb yn ymwneud â chanslo llawdriniaeth orthopedig yn ystod misoedd y gaeaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda Dogfennau ategol: Cofnodion: 3b.1 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud â’r adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7c.1 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7D.1 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |