Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd Deddfwriaeth: Sarah Beasley/Fay Buckle/Steve George
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
(09.00 - 09.15) |
Ystyried y dull o weithio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn ystyried ei ddull o weithio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Plant a Theuluoedd, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach. |
|
(09.15) |
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol; y
llythyrau a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn
perthynas â Bil Trawsblannu Dynol (Cymru); y llythyr a gafwyd gan Ddeoniaeth
Cymru mewn perthynas â’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a
gynhaliwyd ar 10 Ionawr; a’r llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012. |
|
(09.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(09.20 - 10.20) |
Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad terfynol Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat. |
|
(10.30 - 15.00) |
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried y prif faterion Cofnodion: |