Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 10.30)

1.

Ymchwiliad i Ofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

1.1 Trafododd a chytunodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon.

 

(10.30 - 12.10)

3.

Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol - Tystiolaeth lafar

(10.30 - 11.30)

3a

Byrddau iechyd

HSC(4)-31-12 papur 1 : Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

HSC(4)-31-12 papur 2 : Bwrdd Iechyd Hywel Dda

HSC(4)-31-12 papur 3 : Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

HSC(4)-31-12 papur 4 : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

HSC(4)-31-12 papur 5 : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

HSC(4)-31-12 papur 6 : Bwrdd Iechyd Cwm Taf

 

Dr Sharon Hopkins, Cyfarwyddwr Iechyd Gyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Leo Pinto, Meddyg Ymgynghorol a Cyfarwyddwr Clinigol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dr David Minton, Arweinydd Rhwydweithiau Gofal Cymdogaeth, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Bronwen John, Pennaeth Partneriaethau a Rhwydwaith, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Dr Hopkins i roi gwybodaeth ysgrifenedig am y camau penodol y byddai'n argymell eu cymryd i atal diabetes a'i gymhlethdodau.

(11.30 - 12.10)

3b

Iechyd Cyhoeddus Cymru a 1000 o Fywydau a Mwy

HSC(4)-31-12 papur 7

Dr Hugo van Woerden, Cyfarwyddwr yr Is-adran Iechyd a Gwella Gofal Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Ymatebodd Dr van Woerden i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor.

4.

Papurau i'w nodi

4a

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol - Trefniadau am ofal iechyd parhaus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

HSC(4)-31-12 papur 8

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

4b

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

HSC(4)-31-12 papur 9

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

Trawsgrifiad