Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Deddfwriaeth: Bethan Davies

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Sesiwn breifat

1.

Sesiwn friffio ar Hybu Democratiaeth Leol: Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor frîff ar Hybu Democratiaeth Leol: Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru. Holodd yr Aelodau y swyddogion oedd yn bresennol.

2.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar bwnc ei ymchwiliad nesaf.

Sesiwn Gyhoeddus

(10.40)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Etholwyd Joyce Watson yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Ann Jones, Rhodri Glyn Thomas a Ken Skates. Roedd Julie James yn dirprwyo ar ran Ken Skates.

 

Gwnaeth Joyce Watson a Julie James ddatgan buddiannau eu bod yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

(10.40 - 11.25)

4.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth (10.40 - 11.25)

CELG(4) -18-12 – Papur 1

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

 

Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn

Catherine Hardman, Comisiynydd a Chadeirydd y Pwyllgor Archifau

Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd y Comisiwn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Dr Eurwyn Williams, Catherine Hardman a Dr Peter Wakelin o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Holodd yr Aelodau y tystion.

(11.30 - 12.30)

5.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth (11.30 -12.30)

CELG(4)-18-12 – Papur 2

Llywodraeth Cymru

 

Huw Lewis AM, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr Cadw

John Howells, Cyfarwyddwr Tai, Adfywio a Threftadaeth

Steve Webb, Cyfarwyddwr Datblygu: Croeso Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Holodd yr Aelodau y Gweinidog.

Trawsgrifiad