Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor, y Gweinidog a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1: y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Yr Aelod sy’n
gyfrifol am y Bil
Y Bil fel y’i
cyflwynwyd: Memorandwm
esboniadol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn: ·
Gwybodaeth ynghylch cael y cyngor llawn a’r
weithrediaeth i ystyried
is-ddeddfau; ·
Nodyn ynghylch cyfraith achos o ran y defnydd o’r term ‘rheolaeth dda a llywodraeth’ ac ‘atal niwsansau’; ·
Siart llif ar sut i greu is-ddeddf. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda rhagor o gwestiynau a chytunodd i ddarparu atebion ysgrifenedig. |
|
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Cyfnod 1: Sesiwn Breifat Caiff y Pwyllgor
ei wahodd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi): Caiff pwyllgor
benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod: (vi) lle mae’r pwyllgor
yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei
gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson. LGB(4)-01-12
Papur 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |