Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Cyswllt: Gareth Williams Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau,
y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan Rhodri Glyn
Thomas a Peter Black ar gyfer
eitemau 2 a 3, o ystyried eu swyddogaethau ar Comisiwn y Cynulliad. 1.1.3 Croesawodd y Cadeirydd Alun
Ffred Jones ac Eluned Parrott i’r
cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar
eu rhan, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.48. 1.1.4 Croesawodd y Cadeirydd Peter
Black ar gyfer eitem 4 ar y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). |
||
09:30 - 10:15 |
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas yr Iaith Papur 1 Colin Nosworthy Ceri Phillips Osian Rhys Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas yr Iaith. 2.2
Cytunodd Cymdeithas yr Iaith i ddarparu
gwybodaeth ymchwanegol i’r Pwyllgor. |
|
10:30 - 11.00 |
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Papur 2 Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Berwyn Prys
Jones, Cadeirydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. |
|
11:15 - 12:00 |
Sesiwn Breifat: Ystyried y materion allweddol ynghylch y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) Gwahoddir y
Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, yn unol
â Rheol Sefydlog 17.42(vi): Caiff pwyllgor
benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod: (vi) lle mae’r pwyllgor
yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei
gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o eitem 4, yn unol
â Rheol Sefydlog 17.42 (vi), i ystyried materion allweddol ac argymhellion ei adroddiad ar y Bil. |
|
Trawsgrifiad |