Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(09.00 - 11.30)

2.

Craffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2012 - 2013

(09.00 - 10.00)

2a

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

CELG(4)-06-11 : Papur 1

 

·         Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

·         Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Y Tim Gweithrediadau LIL&Ch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar faint y mae pob awdurdod lleol wedi’i gael o’r £54 miliwn o gyllid ychwanegol a ddyranwyd ar gyfer y setliadau cyflog cyfartal ac a gafodd ei ddefnyddio i’r diben hwn.

 

Cytunodd y Gweinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â chyflwyno deddfwriaeth ar y setliadau cyflog cyfartal.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch strwythuro a symleiddio sefydliadau mewn perthynas â darparu gwasanaethau.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y broses o ddarparu Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar ba effaith y bydd y gostyngiad o 9.2 y cant mewn termau real yn y cyllid cyfalaf i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn ei gael ar allu Llywodraeth Cymru i fodloni’r targedau yn y strategaeth Gweithio gyda’n Gilydd i Leihau Niwed. 

(10.00 - 10.30)

2b

Toriad

(10.30 - 11.00)

2c

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

CELG(4)-06-11 : Papur 2

 

·         Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Addysg a Sgiliau

·         Ceinwen Jones, Pennaeth Uned Datblygu’r Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar bolisi sgrinio’r iaith Gymraeg o fewn ei adran a phortffolios Gweinidogion eraill.

(11.00 - 11.30)

2d

Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

CELG(4)-06-11 : Papur 3

 

·         Roger Pride, Cyfarwyddwr Marchnata, BMTG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhestr fanwl o’r digwyddiadau y mae wedi'u cefnogi y tu allan i Gaerdydd a’r digwyddiadau arfaethedig yn y dyfodol.

 

3.

Papurau i'w nodi

Tystiolaeth ychwanegol gan Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru: ‘Safer Communities for You’

CELG(4)-06-11 : Papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

Trawsgrifiad