Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod ar 10 Hydref, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod a gynhelir heddiw.

 

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.1.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Bethan Jenkins AC.  Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(09.00 - 09.40)

2.

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 

(09.40 - 10.00)

3.

Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Mewnfudo: gofynion iaith ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Mewnfudo Cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen unrhyw gamau pellach. 

 

(10.00 - 10.20)

4.

Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) y Bil Menter: swyddi sector cyhoeddus: cyfyngu ar daliadau ymadael

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Menter  Cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad byr.  

 

 

(10.20 - 10.40)

5.

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau. 

 

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.