Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 287KB) Gweld fel HTML (276KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC.  Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

 

(09.00 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 8 - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Curon Davies, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Colin Nosworthy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Aled Powell, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

  • Curon Davies, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Colin Nosworthy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Aled Powell, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

2.2 Cytunodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddarparu

·         rhagor o wybodaeth am ddarlledwr aml-lwyfan newydd a chyflwyno ardoll ar gyfer ffynonellau cyllid amgen;

·         manylion am sut y byddai system reoleiddio yng Nghymru yn gweithio yn ymarferol.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.    Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

 

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.00 - 10.45)

5.

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod themâu allweddol

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.

 

(10.45 - 11.00)

6.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2016 a chytunwyd i gynnal gwaith craffu cyn deddfu ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft.