Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 395KB) Gweld
fel HTML (444KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1. Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2.
Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies AC.
Dirprwyodd John Griffiths a Bethan Jenkins eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog
17.48. |
||
(09.00 - 10.30) |
Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 5 - Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan: ·
Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ·
Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor: ·
Barn Llywodraeth Cymru ar p’un a yw’r BBC wedi ymateb yn ddigonol i
argymhellion Adroddiad King; ·
manylion am waith Panel Cynghori ar Ddarlledu Llywodraeth Cymru, a’r
allbynnau ohono; ·
yr ohebiaeth sy’n ymwneud â galwad Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu
cyllideb S4C; ·
y cyllid ar gyfer BBC Alba a’r gymhariaeth â’r cyllid ar gyfer S4C; ·
ffigurau sy’n ymwneud â’r cwmnïau cynhyrchu a chadwyni cyflenwi sydd wedi
elwa o symud cynhyrchu allan o Lundain i Gymru; ·
y sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud o ran y newidiadau
arfaethedig i’r Telerau Masnach rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a
chynhyrchwyr annibynnol; yr ohebiaeth yn ymwneud â phryderon
Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau i ffi’r drwydded ym mis Gorffennaf 2015 |
|
(10.45 - 11.45) |
Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 6 Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru Dr John Geraint, Green Bay Media Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig Yr Athro Tom O'Malley, Prifysgol Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru ·
Dr John Geraint, Green Bay Media ·
Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig ·
Yr Athro Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(11.45 - 11.55) |
Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 5 a 6 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3. |
|
(11.55 - 12.00) |
Y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn y
drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2, sef: Adran 3, Atodlen 1, adrannau 4 i
22, adran 2, adran 24, Atodlen 2, adrannau 25 i 32, adran 23, adrannau 33 i 41,
adran 1, a’r Teitl Hir. |
|
(12.00 - 12.30) |
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes - Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes ar Etifeddiaeth
y Pedwerydd Cynulliad. |